Hanes Eglwys Sant Tudwal, Llanudwal

Mae Eglwys Llanudwal yn eglwys blwyf hanesyddol sy'n gwasanaethu ardal o dros 3000 erw ac sy'n cynnwys 4000 o eneidiau.

Mae wedi bod yn fan sanctaidd ers 1500 o flynyddoedd. Mae ei leoliad yn nodweddiadol o safle Celtaidd hynafol, gan ei fod yn darparu mynediad rhwydd i'r ddyfrffordd, ond mae hefyd wedi'i guddio'n synhwyrol o'r môr agored a sylw ysbeilwyr. Ystyr y gair LLAN yw EGLWYS, ac mae Llanudwal yn fersiwn lygredig o EGLWYS SANT TUDWAL, er ym 1291 ysgrifennwyd yr enw fel Lanstowel.

Roedd Sant Tudwal yn Esgob yn y 6ed ganrif. Roedd yn adnabyddus yn Llydaw a Gogledd Cymru, ac ar un adeg, galwyd arno i ymyrryd ar adegau o drychineb cyhoeddus.

Y TŴR

Yn ôl pob sôn, daw'r tŵr o'r cyfnod Normanaidd, a cafodd ei adeiladu yn nheyrnasiad y Brenin Stephen (1135-54). Roedd y rhain yn amseroedd o ryfel cartref a thrais, sy'n egluro pam ei fod wedi ei adeiladu i edrych fel amddiffynfa neu gaer. Nid yn unig roedd y tŵr yn ddefnyddiol i longau oedd yn mordwyo'r Aber, roedd hefyd yn llwyfan ymladd i saethwyr a oedd yn tanio'u saethau o'r bylchfuriau. Y tu mewn i'r tŵr mae 75 gris ar ffurf esgynfa droellog, glocwedd. Roedd y grisiau hyn sydd ag arwyddion o draul arnynt erbyn heddiw yn hwylus iawn i'r cleddyfwyr llaw dde oedd yn arfer ymladd arnynt, gan amddiffyn y tŵr rhag y milwyr oedd yn dringo'r grisiau. Mae 3 rhan i'r tŵr ac mae ynddo fwrdd corbelog plaen a bylchfuriau. Yn 2011, cynhaliwyd atgyweiriadau helaeth i'r to ac i'r gwaith cerrig.

Am ganrifoedd, daeth pobl i mewn i'r eglwys trwy ddrws yn y wal orllewinol ac yna i lawr grisiau. Mae pen uchaf y drws hwn i'w weld o'r fynwent hyd heddiw.

Yn y clochdy, mae dwy gloch a gafodd eu bwrw ym 1684. Ym mis Gorffennaf 2012, cawsant eu hadfer a'u hail-osod ar gyfer eu canu pan maent yn llonydd. Ailgyflwynwyd clychau mewn eglwysi ar ôl gwaharddiadau'r Gymanwlad ac mae un gloch wedi'i harysgrifio â'r geiriau VIVAT REX (Hir oes i'r Brenin) - er anrhydedd yn ôl pob tebyg i'r "Brenin Llawen".

Y CORFF

Sefydlwyd cymeriad mewnol yr eglwys i raddau helaeth, gan y gwaith adfer a wnaed yn y 1850au. Codwyd y to a'r llawr bedair troedfedd yn uwch. Gellir gweld hen linellau'r to yn yr eglwys ei hun ac ar waliau'r tŵr. Yn ystod y cyfnod hwn, ychwanegwyd ffenestri newydd, drws y gogledd a'r seddau tebyg i focsys Fictoraidd.

Mae'r fedyddfaen sgwâr o gyfnod llawer cynharach yn parhau yn ei safle gwreiddiol ger y fynedfa i'r tŵr. Mae'n dal pum galwyn o ddŵr ac mewn cyfnod cynharach byddai wedi cael ei llenwi, ei bendithio a'i chadw dan glo.

Gyferbyn â'r fedyddfaen, gellir gweld beddrod endoredig. Daethpwyd â hwn allan i'r golwg o'i safle blaenorol o dan lawr y groesfa ogleddol, yn ystod y gwaith adfer a wnaed yn 2011. Credir y gallai hwn ddyddio o'r bedair ganrif ar ddeg. Mae olion hindreulio sylweddol arno, ar ôl treulio blynyddoedd lawer y tu allan cyn cael ei adael o dan y llawr pan gododd y Fictoriaid lefel y llawr yn y 1850au.

Mae'r rhestr o ficeriaid yn gyflawn o 1535 ymlaen. Fodd bynnag, y cyntaf oedd Thomas Balymore a ddifyrrodd Richard II ar ei daith i Iwerddon ym 1394. Derbyniodd y swm sylweddol o ddeugain swllt bryd hynny, megis ad-daliad am ei gostau. Yn 1662 cafodd John Lunffey, ficer Llanudwal, ei orfodi i adael ei fywoliaeth oherwydd iddo wrthod cydymffurfio â'r Ddeddf Unffurfiaeth a'r Llyfr Gweddi Cyffredin. Wedi iddo adael yr eglwys, dychwelodd i'w waith blaenorol, sef gwerthwr hetiau.

CROESFA'R GOGLEDD

Dyma safle capel hynafol y groesfa. Fel mewn mannau eraill, codwyd llawr yr adran hon bedair troedfedd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyn hynny, arferai addolwyr fwynhau golygfa ddi-rwystr o noddfa'r gangell trwy gyfrwng 'ysbïendwll' neu 'hagiosgop'. Roedd hwn yn agoriad lletraws, cul yn wal neu biler eglwys, a oedd yn galluogi pobl i gael golygfa o'r brif allor o'r groesfa. Gellir parhau i weld twnnel bach a rhan uchaf ei fwa yn isel i lawr ar wal ogleddol y gangell, hyd heddiw.

Roedd y llawr pridd gwreiddiol islaw yn darparu man gorffwys i'r meirw, gan fod y fynwent yn cael ei defnyddio at ddibenion hamdden yn aml bryd hynny. Tua 200 mlynedd yn ôl, dechreuwyd cynnal claddedigaethau ar dir yr eglwys, ac mae'r garreg fedd hynaf yn dyddio'n ôl i 1802. Fodd bynnag, mewn llai na chanrif nid oedd llawer o le ar ôl ar dir yr eglwys, ac ym 1880 cysegrwyd mynwent newydd yn Honeyborough. Yn y fynwent, gellir dod o hyd i feddau morwyr yn perthyn i HMS Blenheim, sef llong warchod oedd wedi'i lleoli yn Noc Penfro ac a falurwyd ym 1865. Mae cyfrifiad 1861 yn cadarnhau bod sawl morwr o'r llong yn byw yn y plwyf.

Mae'r ddarllenfa yn weddol ddiweddar a chredir iddi gael ei cherfio yn yr iard ddociau leol.

Y GANGELL

Mae'r ffenestr ddwyreiniol, gan Kempe, wedi'i chysegru er cof am y rhai a ddisgynnodd yn Rhyfel 1914-18. Mae eu henwau wedi'u harysgrifio ar blât pres yng nghorff yr eglwys. Mae golygfa o'r Ŵyl Ystwyll yn dangos y Tri Gŵr Doeth yn cyrraedd Bethlehem ac yn darlunio'r cenhedloedd yn talu gwrogaeth i Grist, Tywysog Tangnefedd. Daw'r testun o Eseia 60.

Mae'r dodrefn derw cain yn dyddio o'r 1940au, ond mae "piscina" neu ddiodlestr yn wal ddeheuol y cysegr. Mae yna gwpan cymun arian hynod o hardd (wedi'i ddilysnodi ym 1599) o deyrnasiad Elizabeth I, sy'n dal i gael ei defnyddio ar achlysuron pwysig, ond nad yw i'w gweld yn arferol. Mae arysgrifiad yn yr iaith Ladin ar y gwpan cymun, sef "POCULUM ECCLESIE DE LAN SET WAL" (CWPAN EGLWYS LLANUDWAL).

Gellir dod o hyd i olion tybiedig ‘ffenestr gwahanglwyf' y tu allan i wal ogleddol y gangell. Yn ystod y canol oesoedd, roedd hyn yn galluogi llawer oedd yn dioddef o afiechydon heintus, weld yr hyn oedd yn digwydd y tu mewn i'r adeilad ac i dderbyn y sacrament heb fynd i mewn i'r eglwys. Hefyd, ar y wal ogleddol mae cofeb i beriglor hirhoedlog, sef L H Rumsey, a oedd yn raddedig yn Rhydychen ac a oedd yn ficer o 1873-1911. Mae'r pulpud a'r drws gogleddol hefyd wedi'u cysegru er cof am ei deulu.

CROESFA'R DE

Adeiladwyd y rhan hon o'r eglwys fel estyniad i ddarparu ar gyfer y cynnydd sylweddol ym mhoblogaeth y plwyf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan ddaeth Brunel â rheilffordd y Great Western i Neyland. Mae'r bwtresi ger y pulpud yn dangos lle'r oedd llinell y wal allanol, wreiddiol. Bellach mae gan Neyland ei heglwys ei hun, sef Eglwys Sant Clement. Cafodd croesfa'r De ei dodrefnu fel Capel Y Forwyn yn y 1950au, ond yn ddiweddar fe'i haddaswyd er mwyn darparu man hyblyg ar gyfer gweithgareddau amrywiol.

Mae Cofrestrau'r Eglwys yn Swyddfa Cofnodion Hwlffordd, ond cedwir copïau yn y festri a pharheir i gadw cofnodion o bob bedydd, priodas a chladdedigaeth. Mae'r cofnod cyntaf yn cofnodi bedydd Michael Jones ym 1714. Mae cofnodion sydd wedi goroesi yn dangos bedyddiadau (1714-1904), priodasau (1714-1892) a chladdedigaethau (1714-1903).